Net Zero
Are you logged in?
Cymraeg
English
Modiwl 1
Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd – “cod coch i’r ddynoliaeth” yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UN) – a pham mai hwn yw argyfwng diffiniol ein hamser. Ym mis Chwefror 2022, nododd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd y bydd unrhyw oedi pellach o ran gweithredu byd-eang ar ymaddasu a lliniaru yn colli’r cyfle i sicrhau dyfodol gwerth ei fyw a chynaliadwy i bawb.
Module 1
This module is about the climate emergency – “a code red for humanity” according to the United Nations (UN) Secretary-General – and why this is the defining crisis of our time. In February 2022, the Intergovernmental Panel on Climate Change stated that “any further delay in global action on adaptation and mitigation will miss the closing window of opportunity to secure a liveable and sustainable future for all”.
Modiwl 2
Mae’r modiwl hwn yn ymdrin â sut mae pobl yn defnyddio tanwyddau ffosil, a’r ffynonellau amgen o ynni sydd ar gael i ni. Mae’n dangos yr effaith y mae tanwyddau ffosil wedi’i chael ar ein hamgylchedd, a sut mae hyn, ynghyd â’r ffaith eu bod yn derfynedig, wedi’n gorfodi i chwilio am ffyrdd glanach o gynhyrchu ynni ar gyfer bywyd pob dydd. Byddwn yn trafod y mathau o ynni amgen sydd ar gael yn fanwl, yn edrych ar fanteision cynyddu’n defnyddiau o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ogystal ag ystyried rhai o’r rhwystrau rydym yn eu hwynebu, megis sicrhau y gallant ddarparu digon o ynni, ac y gallwn adeiladu’r seilwaith angenrheidiol cyn i’n tanwyddau ffosil ddod i ben. Byddwn hefyd yn edrych ar yr ymrwymiadau uchelgeisiol a wnaed gan lywodraethau’r DU i wella agweddau penodol o’n seilwaith ynni adnewyddadwy.
Module 2
This module is about how humans use fossil fuels, and the potential alternative sources of energy available to us. It covers the impact that fossil fuels have had on our environment, and how this coupled with their finite nature have forced us to look for new cleaner ways to generate energy for day-to-day life. We will discuss the available alternatives in detail, looking at the benefits of increasing our uses of renewable energy sources, as well as considering some of the barriers we are facing, such as ensuring that they can provide enough energy, and that we can build the necessary infrastructure before our fossil fuels run out. We will also look at the ambitious commitments made by the UK governments to improve specific aspects of our renewable energy infrastructure.
Modiwl 3
Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sut mae bodau dynol yn effeithio ar ein hamgylchedd. Byddwn yn edrych ar y ‘ffiniau planedol’, sef mesurau o iechyd ein Daear, a sut mae gweithgareddau dynol wedi dod â ni’n agos at, neu y tu hwnt, i’r ffiniau hyn. Byddwn hefyd yn darganfod beth allwn ni ei wneud i helpu i symud tuag at ddyfodol sero net, a helpu ein planed i adfer. Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y wybodaeth y byddwch wedi’i datblygu o fodiwl 1 (Sero Net a Newid Hinsawdd: Cyflwyniad), a modiwl 2 (Ynni Amgen).
Module 3
This module is about how humans impact our environment. We will look at the ‘planetary boundaries’, measures of the health of our Earth, and how human activities have brought us close to or beyond these boundaries. We will also discover what we can do to help move towards a net zero future, and help our planet to recover. This module builds upon the knowledge you will have developed from module 1 (Net Zero and Climate Change: An Introduction), and module 2 (Alternative Energies).
Modiwl 4
Mae’r modiwl hwn am yr argyfwng bioamrywiaeth/ecolegol. Mae gweithgareddau dynol wedi achosi newidiadau sylweddol i ecosystemau drwy’r byd i gyd ac mae rhywogaethau wedi bod darfod yn gyflymach yn y 50 mlynedd diwethaf nag ar unrhyw adeg mewn hanes dynol. Heddiw, o’r cyfanswm o rywogaethau anifeiliaid a phlanigion yn y byd – sydd wedi ei amcangyfrif fel 8.7 miliwn – mae tua miliwn o rywogaethau eisoes dan fygythiad o ddarfodiad..
Module 4
This module is about the biodiversity/ecological emergency. Human activities have brought about significant global changes to ecosystems and the extinction of species has been more rapid in the past 50 years than at any time in human history. Today, around one million species out of an estimated 8.7 million animal and plant species are already threatened with extinction.
Need help or support?
Please do not hesitate to contact our support staff:
01656 302302 Ext. 201
Email us: elearning@bridgend.ac.uk